logo

Mae cymorth i fynd ar-lein yn hanfodol i’r rheiny sy’n cael help sefydliad iechyd meddwl yng ngogledd Cymru

Digital Communities

Mae cymorth i fynd ar-lein yn hanfodol i’r rheiny sy’n cael help sefydliad iechyd meddwl yng ngogledd Cymru

27/06/2016


Gan Phil Griffiths, Prif Swyddog, Tan Y Maen

Rydym yn gweithio mewn ardal lle mae’n anodd yn aml cyrchu’r byd digidol yn y ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gymryd yn ganiataol. Mae effeithiau newid o hen ddiwydiannau i dechnolegau newydd wedi arwain at Flaenau Ffestiniog, tref o oddeutu 6,000 o bobl ar frig cadwyn o fryniau yn ne Eryri, yn gorfod ‘dal i fyny’ i ddod yn rhan o’r chwyldro digidol.

Oes, mae gennym (yn wahanol i nifer o rannau o Eryri a gogledd Cymru wledig) dechnoleg ffôn ddigidol, cysylltiad ffôn symudol da, a chyflymder rhesymol ar gyfer gwasanaethau band eang (mae band eang ffibr optig newydd ddod ar gael), ond yr hyn sydd wedi mynd yn angof yw bod angen cynorthwyo pobl i sicrhau y cânt eu defnyddio a gellir gwneud hyn trwy wella amodau, addysg a mynediad yn unig.

Nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn y newid o wasanaethau budd-daliadau lles mewn swyddfa neu dros y ffôn i’r gofyniad i fod ‘ar-lein’ i gyrchu a chynnal ‘Credyd Cynhwysol’. Etifeddiaeth y dirywiad mewn diwydiant trwm yn lleol yw cynnydd mewn tlodi, diweithdra ac arwahanrwydd. I nifer o’n cleientiaid, y dewis yw prynu cyfrifiadur neu fwyta, chi piau’r dewis. Felly, yn y cyd-destun hwn, yn 2014, y dechreuom ein ‘Clwb Camau i Waith’.

Roedd yn amlwg bod hawlwyr yn ei chael hi’n anodd cydymffurfio â’r gofynion newydd i wneud cais a chynnal eu ceisiadau ar wefan newydd y llywodraeth. Roedd gofyniadau adrodd ar-lein yn ddyddiol, chwilio am swyddi ar-lein yn rheolaidd, system CV ar-lein, a’r angen i gael cyfrif e-bost gweithredol yn arwain at rai hawlwyr yn colli allan ar hawliadau budd-daliadau, cael eu cosbi am beidio â chydymffurfio a bod yn bryderus a digalon, nid yn unig oherwydd eu diffyg gwaith, ond eu hanallu i reoli a ffynnu o fewn amgylchedd hollol newydd ac estron – TG a’r rhyngrwyd.

Ers dechrau ein ‘Clwb’, rydym wedi gweithio gyda rhwng dau a deg unigolyn yr wythnos. Maent wedi amrywio rhwng 18 a 65 oed. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod i ddefnyddio ein gliniaduron, lle gallant fodloni eu hymrwymiad i ‘chwilio am waith’ ac adrodd ar eu cynnydd ar-lein. Mae gwasanaethau cyfrifiadurol cyhoeddus eraill yn y llyfrgell ar gael, ond y rheswm y maent yn dod atom ni yw ein bod ni’n rhoi cymorth diduedd, heb fod yn feirniadol a chyfannol gydag unrhyw her TG y maent yn ei hwynebu. Rydym yn amyneddgar. Mae llawer o’r rheiny sy’n dod atom yn methu troi cyfrifiadur ymlaen, a gwaetha’r modd, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae rhai ohonynt yn methu gwneud hyn o hyd. Hefyd, rydym wedi galluogi llawer o bobl i oresgyn y ‘rhwystr gwybodaeth’ ac, er yr oedd angen bron 100% o gymorth arnynt ar y cychwyn, maen nhw bellach yn hunanddibynnol yn bennaf, ac angen ‘cymorth ymladd tân achlysurol’ wrth geisio ymdrin â mater y tu hwnt i’w lefel bresennol o arbenigedd.

Enghraifft nodweddiadol o daith trwy’r ‘Clwb’ fyddai presenoldeb cychwynnol gyda gwybodaeth sefydlu oddi wrth ‘y Ganolfan Byd Gwaith’ (manylion cyfrif a chyfrineiriau ar gyfer gwefan y Llywodraeth). Byddwn yn darganfod eu lefel cymhwyster ac yn trafod eu hanghenion, yna’n eu helpu i sefydlu cyfrif e-bost, yn esbonio sut i’w ddefnyddio a chofrestru eu cyfrif gyda’r Ganolfan Waith. Yn yr wythnosau wedi hynny, rydym yn cyrchu’r wefan Credyd Cynhwysol, yn chwilio am waith, yn argraffu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gwaith, yn argraffu cyfleoedd gwaith, yn paratoi a lanlwytho CV i’r wefan, ac yn anfon CV at gyflogwyr. Rydym yn rhoi cyngor ar yr asiantaethau ar-lein cysylltiedig â swyddi gorau ac yn helpu pobl i gofrestru. Rydym yn helpu pobl i gofnodi eu gweithgareddau chwilio am waith, ac yn rhoi cymorth ac eiriolaeth pan fydd bwlch neu broblem wedi bod yn eu gweithgareddau chwilio am waith, o ganlyniad i faterion personol neu faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Mae’n glir bod lefel y pryder y maecleientiaid yn ei ddangos ar y cychwyn wedi lleihau’n sylweddol yn sgil y cymorth rydym yn ei ddarparu. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth ein staff o wasanaethau ar y rhyngrwyd wedi gwella’n fawr ac rydym wedi sefydlu ‘bwrdd swyddi’, lle darperir crynodeb o gyfleoedd swyddi newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn bwysicaf oll, mae ‘ofn’ pobl o dechnoleg newydd wedi cael ei leddfu. Maent yn teimlo’n rhan o’r ‘gymuned ddigidol’ a chanddynt fynediad at amrywiaeth ehangach o wybodaeth a gwasanaethau na fyddai wedi bod yn bosibl yn flaenorol. Mae gorwelion pobl wedi cael eu hymestyn y tu hwnt i’w teulu a’u cymuned, i’r ‘We Fyd-eang’ o unigolion a grwpiau cysylltiedig, lle caiff arwahanrwydd ei leihau wrth wasgu botwm, a gall pobl gynnal cysylltiadau gyda theuluoedd estynedig a ffrindiau mewn amgylchedd ategol.

Mae’n ddechrau, ond mae angen gwneud mwy. Mae gennym weledigaeth o ‘gymunedau cysylltiedig’ yn rhoi cymorth a helpu eu hunain, defnyddio cyfleusterau tebyg i Skype yn well i leddfu’r baich ar ganolfannau iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu gorymestyn, rhoi ‘therapïau siarad’ a chymorth mewn argyfwng ar y rhyngrwyd, ‘canolfannau cysylltiedig’ yn darparu gwasanaethau cymorth grŵp mewn cymunedau a lleihau unigedd ac arwahanrwydd ar gyfer pob grŵp oedran.

Mae ein rhesymau dros lofnodi’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn cynnwys yr holl nodau hyn a mwy, yn enwedig rhoi gobaith i’r rheiny sy’n teimlo’n eu bod nhw wedi cael eu dieithrio a’u hesgeuluso gan orymdaith ddidostur technoleg a chynnydd, sydd wedi, hyd yn hyn, dangos ychydig bach iawn o berthnasedd i realiti eu bywydau bob dydd.