6ed Grŵp Sgowtiaid Merthyr
Y sgowtiaid sy’n berchen ar y neuadd a ddefnyddir gan 6ed Grŵp Sgowtiaid Merthyr, sy’n caniatáu iddyn nhw gynnal gweithgareddau ar unrhyw ddiwrnod. Mae hyn yn arbennig o wir am weithgareddau ar y penwythnos, sy’n nodweddiadol yn cynnwys aros yn y neuadd.
Yn ogystal â sgowtio, mae’r adeilad yn darparu lle i grwpiau cymunedol eraill, cyfarfodydd / gweithgareddau a digwyddiadau hyfforddi.
Mae gan y grŵp dair adran – Afancod, Cybiaid a Sgowtiaid – ac mae’n cynnal adrannau Archwilwyr a Rhwydweithiau’r rhanbarth, sy’n cynnwys plant a phobl ifanc rhwng 6 a 25 oed.
Amlinelliad o’n Hymyriad
Cytunodd 6ed Grŵp Sgowtiaid Merthyr i gynnal peilot Arwyr Digidol bach mewn cydweithrediad â Cymunedau Digidol Cymru.
Roedd y peilot yn seiliedig ar y pecyn Arwyr Digidol a ddatblygwyd o ganlyniad i waith gyda grŵp Geidiaid yng Nghaerdydd.
Roedd gan y Sgowtiaid ddiddordeb mewn datblygu ymgysylltiad gwell gyda’r gymuned leol, ac roedd yr ymagwedd Arwyr Digidol yn darparu’r model perffaith. Roedd hefyd yn cydweddu â rhai o ofynion nifer o Fathodynnau Sgowtio presennol.
Cynhaliwyd y peilot dros gyfnod o dri mis, ac fe wnaeth saith aelod o’r adran Archwilwyr gwblhau’r dasg, a dyfarnwyd tystysgrif Arwyr Digidol iddyn nhw.
Ken Long, Arweinydd Sgowtiaid, 6ed Grŵp Sgowtiaid Merthyr
Effaith Unigol
Seren:
“My task was to teach my grandfather how to find and access a specific programme on the internet, and to find, update and save individual files on it.
It was really hard work working with my grandfather, however, with a lot of effort from both parties we eventually got there, I think! At the beginning even basic things, that I took for granted, he either didn’t know or found difficult to do. Also remembering what we had done from one computer session to another was almost an impossibility for him.”
DEWCH AR-LEIN YNG NGHYMRU
Mae’r gronfa ddata ar-lein rhad ac am fannau cyhoeddus yng Nghymru lle mae mynediad am ddim i gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg ddigidol.
COFRESTRU I GAEL NEGESEUON E-BOST
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynhwysiant Digidol trwy ein postiadau blog rheolaidd a anfonir yn syth i’ch mewnflwch