Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf Ebwy Fach
Mae’n gwneud hyn trwy 3 prif thema:
- Cymunedau Iach
- Cymunedau Dysgu
- Cymunedau Ffyniannus
Mae pob ardal neu glwstwr yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n arwain at gynaliadwyedd a lles cymunedau, gan gynnwys pobl leol, asiantaethau a phartneriaid.
Prif nod y Clwstwr yw deall y ‘bwlch’ rhwng ardaloedd mwyaf cyfoethog Cymru ac ardal y Clwstwr (er enghraifft, disgwyliad oes neu ganlyniadau Camau Allweddol) a gweithio gyda phartneriaid eraill i gau’r ‘bwlch’ hwnnw.
Mae 52 Clwstwr ledled Cymru, ac mae 4 ym Mlaenau Gwent (Tredegar, Ebwy Fawr, Gogledd Ebwy Fach a De Ebwy Fach). Mae’r astudiaeth achos benodol hon yn seiliedig ar gymorth a ddarparwyd i staff Clwstwr De Ebwy Fach a Gogledd Ebwy Fach gan Cymunedau Digidol Cymru.
Sut Gwnaethom Helpu
Darparodd Cymunedau Digidol Cymru gymorth i Gymunedau’n Gyntaf Ebwy Fach trwy gwrs hyfforddi i grŵp o aelodau staff rheng flaen. Cyflwynwyd yr hyfforddiant trwy gwrs hanner diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar dri mater allweddol – y cyfryngau cymdeithasol, e-hygyrchedd ac arbed arian ar-lein.
Mae cynhwysiant digidol mor bwysig yn ein cymunedau a bydd yr hyfforddiant hwn nid yn unig yn fy helpu i ond y trigolion lleol yr wyf yn gweithio gyda nhw.
Sofia, Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf Ebwy Fach
Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan un o Hyfforddwyr Ymarfer Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru i grŵp o bobl sy’n cyflawni rolau amrywiol o fewn y tîm ac sydd hefyd ag amrywiaeth o sgiliau cyfrifiadurol a rhyngrwyd. Er enghraifft, mae rhai o’r staff yn gweithio yn y gymuned gyda thrigolion lleol, ac mae rhai’n tueddol o fod wedi’u lleoli mwy mewn swyddfa.
Roedd pob un a oedd yn bresennol wedi cael mynediad at iPad, ac roedd gan rai ohonynt brofiad cyfyngedig yn ei ddefnyddio. Roedd y sesiwn yn ystyried sut gallai pobl elwa ar fod ar y cyfryngau cymdeithasol, o ran cysylltu â ffrindiau, teulu a gwasanaethau lleol, ac ymdrin â diogelwch ar-lein hefyd.
Fe wnaeth e-hygyrchedd helpu’r rheiny a oedd yn bresennol i ennill dealltwriaeth well ynghylch sut mae angen i bobl ag amrywiaeth o anableddau a phroblemau iechyd ddefnyddio technoleg, a’r rhwystrau sydd angen iddyn nhw eu goresgyn.
Fe wnaeth yr adran ‘arbed arian ar-lein’ helpu i ddod â chynhwysiant digidol ac ariannol at ei gilydd, edrych ar safleoedd cymharu prisiau, bancio ar-lein, undebau credyd, gwefan Money Made Clear Wales a chwponau ar-lein – yr holl offer a allai fod yn ddefnyddiol mewn cymuned sy’n dioddef lefelau cymharol uchel o dlodi.
DEWCH AR-LEIN YNG NGHYMRU
Mae’r gronfa ddata ar-lein rhad ac am fannau cyhoeddus yng Nghymru lle mae mynediad am ddim i gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg ddigidol.
COFRESTRU I GAEL NEGESEUON E-BOST
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynhwysiant Digidol trwy ein postiadau blog rheolaidd a anfonir yn syth i’ch mewnflwch