logo

Cymdeithas Tai Merthyr Tudful – Stori Lisa

Digital Communities

Cymdeithas Tai Merthyr Tudful – Stori Lisa


Mae Lisa yn ei 30au ac mae ganddi deulu ifanc. Dydy hi ddim wedi defnyddio gliniadur na chyfrifiadur ers pan oedd hi yn yr ysgol, a doedd ganddi ddim sgiliau rhyngrwyd o gwbl. Roedd ganddi ffôn clyfar, ond dim ond ar gyfer Facebook roedd hi’n ei ddefnyddio. Fel rhan o gynllun cael benthyg gliniadur Llywodraeth Cymru/DCW, cofrestrodd Lisa i gael benthyg gliniadur; fel rhan o’r cynllun, fe gytunodd hi i gymryd rhan mewn sesiynau sgiliau rhyngrwyd hefyd.

Roedd Lisa wedi dilyn cwrs coginio ‘slow cooker’ a drefnwyd gan y Gymdeithas Dai, sef cwrs pedair sesiwn gyda’r unigolyn yn cael cadw’r ‘slow cooker’ ar ddiwedd y cwrs. Pan gafodd gyfle i gael benthyg gliniadur, roedd Lisa’n awyddus i chwilio am ryseitiau ar-lein fel y gallai ddefnyddio’i hoffer coginio a chwilio am ryseitiau i fwydo ei theulu ar gyllideb. Roedd ganddi ddiddordeb hefyd mewn gwybod sut y gallai ddefnyddio’r gliniadur i arbed arian ac edrych ar adnoddau cyllidebu. Helpodd staff y Gymdeithas Dai Lisa i greu cyfeiriad e-bost fel y gallai edrych ar wefannau cymharu prisiau ynni – o ganlyniad, mae hi bellach yn gallu cadw llygad ar ei thariff i sicrhau ei bod hi ar yr un rhatach bosib. Dangoswyd iddi hefyd sut i wneud ceisiadau grant ar-lein, megis ar gyfer y disgownt cartrefi cynnes a chynllun HelpU Dŵr Cymru. Nid oedd gan Lisa unrhyw brofiad o wneud ceisiadau ar-lein, felly ar ôl gwneud yn siŵr ei bod hi’n gymwys i gael grantiau o’r fath, cafodd help i wneud hyn ar-lein. Cafodd hi siom ar yr ochr orau o weld pa mor syml ydoedd; dywedodd y byddai wedi bod ofn rhoi cynnig ar y fath beth o’r blaen, ond nawr mae hi’n teimlo’n ddigon hyderus i ddangos i’w ffrindiau a’i theulu sut i wneud cais. O ganlyniad, arbedodd Lisa tua £330 trwy gynllun Dŵr Cymru a £140 trwy’r disgownt cartrefi cynnes. Mae Lisa wedi cofrestru hefyd i ddefnyddio adnodd cyllidebu ar-lein y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gadw llygad ar ei sefyllfa ariannol.

Mae Lisa’n parhau i ddefnyddio’r gliniadur i edrych ar ryseitiau, dysgu sut i arbed arian a rhyngweithio cymdeithasol ar fforymau ac ati. Mae hi wedi cysylltu â’i chymdogion ar ei stryd ar Facebook, ac mae hi’n gallu dysgu mwy am ddigwyddiadau cymunedol a phrosiectau tai Merthyr Tudful ar dudalen Facebook Tai Merthyr. Mae’r gliniadur wedi dod yn adnodd gwerthfawr i Lisa a’i theulu.

DEWCH AR-LEIN YNG NGHYMRU

Mae’r gronfa ddata ar-lein rhad ac am fannau cyhoeddus yng Nghymru lle mae mynediad am ddim i gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg ddigidol.

Gwefan Yr Ymweliad

COFRESTRU I GAEL NEGESEUON E-BOST

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynhwysiant Digidol trwy ein postiadau blog rheolaidd a anfonir yn syth i’ch mewnflwch

E-Bost*