Scope Cwmbrân
Mae’r gwasanaeth craidd yn galluogi pobl i ddewis a datblygu eu ffordd o fyw er mwyn byw bywyd annibynnol.
Amlinelliad o’n Hymyriad
Cyfarfu Cymunedau Digidol Cymru â Rheolwr Gwasanaeth Scope Cwmbrân er mwyn trafod sefyllfa’r sefydliad o ran gweithgaredd digidol. Datblygwyd Cynllun Gwella Ymgysylltiad Digidol er mwyn galluogi Scope i barhau i ddarparu cymorth digidol i’w gwsmeriaid.
Nid oedd cwsmeriaid Scope yn gallu cael mynediad at gymorth i fynd ar-lein oherwydd bod y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth flaenorol wedi dod i ben. Roedd y sefydliad yn awyddus i sicrhau nad oedd ei gwsmeriaid yn colli’r manteision niferus sydd i’w cael wrth fynd ar-lein.
Cafodd argymhellion y Cynllun Gwella Ymgysylltu Digidol eu rhoi ar waith fel bod modd parhau â’r gweithgaredd cynhwysiant digidol. Yn gyntaf, cyflwynodd Scope gais i gael benthyg offer am gyfnod byr gan Cymunedau Digidol Cymru. Bu’r cais yn llwyddiannus a chafwyd dau liniadur, dau iPad a dau gyfrifiadur llechen Android. Ategwyd hyn gan nifer o staff rheng flaen a gwirfoddolwyr a oedd yn cwblhau hyfforddiant undydd Cymunedau Digidol Cymru, Cynorthwyo Pobl i Fynd Ar-lein.
Effaith ein Hymyriad
Mae cael benthyg yr offer TGCh gan Cymunedau Digidol Cymru wedi galluogi Scope i barhau i helpu cwsmeriaid i wella eu sgiliau digidol a’u hyder. Roedd cael benthyg y dyfeisiau amrywiol yn golygu bod unigolion yn cael cyfle i roi cynnig ar offer gwahanol, er mwyn canfod pa rai oedd y rhai mwyaf priodol iddyn nhw. Mae defnyddio’r iPads a’r cyfrifiaduron llechen Android wedi galluogi Scope i lawrlwytho llawer o apiau synhwyraidd na fyddent yn gallu eu defnyddio fel arall.
Kathleen O’Dwyer, Arweinydd Tîm yn Scope Cwmbrân
Effaith ar Unigolyn
Mae ‘TP’ yng nghanol ei 40au, ac ar hyn o bryd mae’n ystyried symud i’w gartref ei hun lle bydd yn byw’n annibynnol. Mae TP wedi cael budd personol sylweddol o’r offer y cafwyd eu benthyg. Mae gallu defnyddio’r gwahanol fathau o offer wedi golygu bod TP a’r staff wedi gallu eistedd mewn mannau tawel yn y Ganolfan a chwilio am waith gwirfoddol. Oni bai am yr offer byddai’r profiad wedi bod yn un llawer llai personol. Meddai TP, “Rwy’n edrych ymlaen i gael rheolaeth dros y pethau rydw i eisiau eu gwneud, ac mae defnyddio’r offer wedi golygu fy mod i’n gallu chwilio am bethau i ddiwallu fy anghenion”.
DEWCH AR-LEIN YNG NGHYMRU
Mae’r gronfa ddata ar-lein rhad ac am fannau cyhoeddus yng Nghymru lle mae mynediad am ddim i gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg ddigidol.
COFRESTRU I GAEL NEGESEUON E-BOST
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynhwysiant Digidol trwy ein postiadau blog rheolaidd a anfonir yn syth i’ch mewnflwch